Y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog
Committee for the Scrutiny of the First Minister

 

 

 

 

                                                                                                       

 

Y Gwir Anrhydeddus Carwyn Jones AC

Y Prif Weinidog

Llywodraeth Cymru

Pumed Llawr, TŷHywel

Bae Caerdydd

CF99 1NA                                                                                  2 Ebrill 2015

 

                                                                  

 

 

 

 

 

Annwyl Brif Weinidog

 

CYFARFOD AR 13 MAWRTH 2015

 

Roedd Aelodau'r Pwyllgor yn ddiolchgar ichi a'ch swyddogion am ddod i'r cyfarfod ar 13 Mawrth ac am ymateb i'n cwestiynau am rôl Llywodraeth Cymru wrth ddiogelu a hyrwyddo'r iaith Gymraeg a'r broses o ran penodiadau cyhoeddus amlwg yng Nghymru, a chraffu yn hyn o beth.

 

Byddai'r Pwyllgor yn ddiolchgar am eich ymateb i'r materion a'r argymhellion canlynol. 

 

Rôl Llywodraeth Cymru wrth ddiogelu a hyrwyddo'r iaith Gymraeg

 

Cymorth Ariannol

 

Yn ystod y cyfarfod, gwnaeth yr Aelodau y pwynt ei bod yn anodd gweld o linell y gyllideb ar gyfer gwariant ar y Gymraeg sut yn union y caiff yr arian ei wario. Fe wnaethoch gytuno i ysgrifennu at y Pwyllgor yn nodi'r wybodaeth hon yn fwy manwl. 

 

Er mwyn bod yn gyflawn, byddai'n ddefnyddiol hefyd os gallech nodi sut mae eich amcangyfrif o ffrydiau ariannu eraill, efallai mai addysg cyfrwng Cymraeg yw'r esiampl gliriaf, yn cyfrannu at gefnogi'r iaith a sut mae'r gefnogaeth hon wedi cynyddu neu leihau ers dechrau'r Cynulliad hwn.  

 

Prif ffrydio

 

Tynnwyd ein sylw at bryderon - yn bennaf gan Gomisiynydd y Gymraeg - nad yw Llywodraeth Cymru bob amser yn asesu effaith polisïau, mentrau neu wasanaethau ar y Gymraeg cyn ymgynghori arnynt. Fe wnaethoch esbonio bod pecyn cymorth newydd i helpu staff Llywodraeth Cymru i asesu effaith penderfyniadau polisi ar y Gymraeg wedi cael ei roi ar waith.  Byddai'n ddefnyddiol pe gallech roi gwybodaeth bellach am y pecyn cymorth, sut mae'n gweithio, pa effaith a gafodd hyd yn hyn a sut a phryd y caiff ei lwyddiant ei werthuso.

 

Mynegodd Comisiynydd y Gymraeg bryder hefyd am Gynllun Iaith mewnol y Llywodraeth. O ran yr adroddiad monitro blynyddol o'r Cynllun hwn, dywed y Comisiynydd bod "bylchau amlwg yn y wybodaeth a ddarparwyd yn yr adroddiad blynyddol o’i gymharu ag adroddiadau blaenorol," heb ddarparu unrhyw fanylion yn erbyn unrhyw rai o'r dangosyddion perfformiad allweddol. 

 

Buaswn yn ddiolchgar pe gallech roi eich ymateb i'r Pwyllgor ynghylch y materion hyn ac yn benodol yr hyn sy'n cael ei wneud i fynd i'r afael â'r pryderon.

 

Cynllunio a'r Bil Cynllunio

 

Fe ddywedasoch mewn ymateb i gwestiynau ei bod yn bwysig cynnal asesiadau effaith ar y Gymraeg wrth lunio Cynlluniau Datblygu Lleol.  Fe wnaethoch sôn hefyd efallai fod angen asesiadau iaith ar wahân ar gyfer datblygiadau annisgwyl.  Aethoch ymlaen i ddweud fod Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 20 eisoes yn rhoi arweiniad ond fod rhai awdurdodau lleol o dan y camargraff na allant ystyried yr iaith o gwbl.

 

Nododd y Pwyllgor fod Comisiynydd y Gymraeg wedi mynegi siom nad yw y Bil Cynllunio (Cymru) fel y'i cyflwynwyd yn dilyn y cyngor a roddodd hi i Lywodraeth Cymru y dylai fod yn orfodol i awdurdodau lleol ystyried y Gymraeg wrth wneud penderfyniadau. 

 

Nododd y Pwyllgor hefyd fod y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd, yn ei adroddiad Cyfnod 1 ar y Bil, wedi argymell nifer o newidiadau i'r ddeddfwriaeth arfaethedig, gan gynnwys:

 

Cytunodd y Pwyllgor fod y Bil Cynllunio yn gyfle i fynd i'r afael â phryderon yn y meysydd hyn ac rydym yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru ystyried dwyn gwelliannau addas ymlaen yn ystod y cyfnodau sy'n weddill o'r Bil wrth iddo fynd drwy'r Cynulliad.  

 

Safonau’r Gymraeg

 

Bwriedir i Reoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 1) 2015 gael eu trafod yn y Cyfarfod Llawn ar 24 Mawrth 2015.  Bydd y rheoliadau hyn yn cyflwyno'r gyfres gyntaf o safonau yn ymwneud â'r Gymraeg o dan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 ac yn disodli cynlluniau iaith presennol sefydliadau, a byddant yn berthnasol, yn y lle cyntaf, i Weinidogion Cymru, awdurdodau lleol ac awdurdodau parciau cenedlaethol, gyda safonau ar gyfer sefydliadau eraill yn cael eu cyflwyno maes o law. Comisiynydd y Gymraeg fydd yn gyfrifol am reoleiddio'r safonau a monitro cydymffurfio.

 

Mynegodd Aelodau'r Pwyllgor bryder nad oedd digon o wybodaeth sylfaenol ar gael ar hyn o bryd i allu asesu a lwyddodd y safonau i lywio gwelliannau mewn darpariaeth ar gyfer siaradwyr Cymraeg. Os yw'r safonau am arwain at welliannau gwirioneddol, roedd pryder hefyd ei bod yn bwysig na chaiff hyn ei beryglu gan ddiffyg siaradwyr Cymraeg sydd â'r sgiliau angenrheidiol o fewn sefydliadau.

 

Yn y cyfarfod, dywedasoch chi a'ch swyddogion bod gwybodaeth sylfaenol ar gael i fynd i'r afael â'r pryderon hyn.  Fe ddywedasoch hefyd nad nifer y siaradwyr Cymraeg yw'r broblem, ond eu hyder o ran defnyddio'r Gymraeg er mwyn gwella darpariaeth.

 

Buaswn yn ddiolchgar pe gallech roi rhagor o wybodaeth inni am y math o ddata a fydd yn caniatàu ar gyfer asesiad priodol o lwyddiant y safonau, ac unrhyw wybodaeth arall y gallwch ei rhoi inni o ran eich barn fod gan sefydliadau ddigon o siaradwyr Cymraeg eisoes i ymdrin ag unrhyw gynnydd yn y galw a fydd yn deillio o'r safonau hyn.

 

Mewn cysylltiad â'r ail a'r drydedd gyfres o safonau, rydym yn argymelly cânt eu dwyn ymlaen er mwyn cael eu hystyried cyn diwedd y Cynulliad presennol. Buaswn yn ddiolchgar, felly, am wybodaeth o ran yr amserlen ar gyfer cyflwyno'r gyfres nesaf o safonau yn ogystal â gwybodaeth am y sefydliadau y byddant yn berthnasol iddynt. 

 

Y Gymraeg mewn Addysg

 

Adroddiad Sioned Davies

 

Roedd adroddiad Sioned Davies ym mis Medi 2013, ac a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, yn edrych ar y Gymraeg fel ail iaith mewn ysgolion cyfrwng Saesneg.  Canfu'r adroddiad bod cyrhaeddiad isel yn cael ei dderbyn fel y norm.  Roedd yr adroddiad yn argymell disodli'r Gymraeg fel ail iaith â pharhâd lle y bydd pob disgybl yng Nghymru yn cael cyfran o'u haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg. Rydym yn deall fod yr Athro Davies wedi mynegi siom nad yw Llywodraeth Cymru wedi gweithredu ar ei hargymhellion.

 

Dywedasoch nad yw gweledigaeth yr Athro Davies wedi'i cholli, a'i bod wedi cael ei bwydo i adolygiad Donaldson o'r cwricwlwm, a oedd yn cefnogi prif ffrydio'r Gymraeg drwy'r cwricwlwm nes mae disgyblion yn 16 oed.  Er hynny, byddai'r Pwyllgor yn ddiolchgar pe gallech ystyried eto sut y gallai'r safbwynt canolog hwn o adroddiad yr Athro Davies gael ei ddatblygu mewn ffordd gadarn yng nghyd-destun adolygiad Donaldson.

 

Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn ystyried argymhellion yr Athro Sioned Davies ymhellach, o ran addysgu Cymraeg fel ail iaith mewn ysgolion cyfrwng Saesneg gan nodi amserlen glir ar gyfer sut y bydd hyn yn digwydd.

 

Y Gymraeg fel Sgil

 

Roedd gan y Pwyllgor ddiddordeb hefyd yn y dull a amlinellwyd gennych yn y cyfarfod, a fyddai'n gweld y Gymraeg yn cael ei dysgu fel sgil yn hytrach na phwnc academaidd arall.  Byddai'r Pwyllgor yn ddiolchgar pe gallech roi rhagor o wybodaeth ynghylch goblygiadau ymarferol y dull hwn a'r hyn y gallai ei olygu i'r Gymraeg fel ail iaith o ran cymhwyster.

 

Capasiti i addysgu

 

Er yr holl addewidion da a'r cytundeb eang ynghylch yr angen i wella cyrhaeddiad o ran y Gymraeg fel ail iaith, mae gan y Pwyllgor bryderon gwirioneddol mai cronfa addysgu gyfyngedig sydd ar gael a bod angen rhagor o athrawon sy'n meddu ar y sgiliau i addysgu Cymraeg.   Byddai'r Pwyllgor yn ddiolchgar am unrhyw wybodaeth o ran y camau mae'r Llywodraeth yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r mater hwn.

 

Cymraeg i Oedolion

 

Fe soniasoch yn y cyfarfod efallai fod angen canolbwyntio llai o'r ddarpariaeth ar gyfer oedolion ar addysgu Cymraeg i'r rhai nad ydynt yn siarad Cymraeg a mwy ar wella sgiliau'r rhai sy'n ei siarad eisoes.  Y nod fyddai gwella hyder siaradwyr Cymraeg i ddefnyddio'r iaith mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd. 

 

Byddai'r Pwyllgor yn ddiolchgar ichi am eich barn o ran goblygiadau hyn ar ddarpariaeth bresennol Cymraeg i oedolion, yn benodol o ran y sefyllfa ariannol anodd y mae darparwyr yn ei hwynebu.

 

Gwasanaethau ar-lein

 

Cawsom gwestiwn gan aelod o'r cyhoedd ynghylch y ddarpariaeth o wasanaethau ar-lein yn Gymraeg, yn arbennig gan y banciau.  Mae hyn yn ystyriaeth sy'n berthnasol i amrywiaeth o wasanaethau a gaiff eu darparu ar-lein, yn bennaf yn y sector preifat, nid banciau yn unig,   Byddai'r Pwyllgor yn ddiolchgar o gael gwybod beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud yn y maes hwn i annog sefydliadau masnachol i ddarparu mwy o wasanaethau dwyieithog ar-lein.

 

Nifer y Siaradwyr Cymraeg sydd ar Gyrff Cyhoeddus o Bwys

 

Er mai yng nghyd-destun y Gymraeg y codwyd y mater hwn, mae hefyd yn bwynt dilys mewn perthynas â thestun arall y cyfarfod o ran penodiadau cyhoeddus. 

 

Fe soniasoch nad oes gennych unrhyw gynlluniau ar hyn o bryd i osod targedau ar gyfer y nifer o siaradwyr Cymraeg ar fyrddau cyrff cyhoeddus yng Nghymru a gaiff eu hariannu gan arian cyhoeddus.  Fe wnaethoch gytuno, fodd bynnag, i ystyried y mater ymhellach, a buaswn yn ddiolchgar am eich barn o ran faint mwy y byddai'n bosibl ei wneud yn y maes hwn.

 

Y broses o wneud penodiadau cyhoeddus amlwg yng Nghymru a chraffu yn hyn o beth.

 

Roedd y trafodaethau am y mater hwn yn canolbwyntio ar sicrhau'r cydbwysedd cywir fod Comisiynwyr (a swydd-ddeiliaid tebyg fel yr Ombwdsmon a'r Archwilydd Cyffredinol) yn annibynnol ar y Llywodraeth, ond gan sicrhau hefyd eu bod yn parhau i fod yn destun gwaith craffu gwleidyddol cyffredinol a'u bod yn atebol am eu perfformiad a'r materion y maent yn dewis eu hystyried.

 

Er inni nodi eich bod wedi codi nifer o bryderon ymarferol, yn arbennig o ran cyllid, mae'r Pwyllgor yn croesawu eich parodrwydd i ystyried a fyddai'n bosibl cynnal y broses benodi ac atebolrwydd penodiadau cyhoeddus amlwg yn wahanol.  Nododd y Pwyllgor nad oedd yn ymddangos fel pe bai gennych unrhyw wrthwynebiad mewn egwyddor i adolygu sut y caiff y penodiadau cyhoeddus hyn eu cynnal, ac yn arbennig:

 

 

Fe wnaethoch gytuno i ystyried y materion hyn ymhellach, yn arbennig y materion ymarferol.  Byddai'r Pwyllgor yn ddiolchgar ichi am farn bellach ar hyn, gan gynnwys beth fyddai'r ffordd orau o gynnal adolygiad o'r trefniadau yn y maes hwn. 

 

I gloi, er eich bod wedi nodi yn y cyfarfod nad oeddech yn credu fod angen deddfwriaeth sylfaenol yn y maes hwn, buasem yn ddiolchgar am eich barn ynghylch yr achos dros 'Ddeddf Comisiynwyr'.  Er y dylwn egluro fod Aelodau'r Pwyllgor yn derbyn pe bai angen Deddf o'r fath, y gallai fod yn well cyflwyno hyn fel Bil Pwyllgor neu Fil Comisiwn y Cynulliad yn hytrach na Bil y Llywodraeth.

 

Byddwn yn ddiolchgar am eich ymateb i'r pwyntiau uchod maes o law. 

 

 

Yn gywir

David Melding AC

Y Dirprwy Lywydd

Cadeirydd y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog